Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)
Mehefin 2018
Ar 12 Mehefin 2018 cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion).
Yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(ii), cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 5 Gorffennaf 2018.